was successfully added to your cart.

Cart

Celf gwreiddiol wedi ei bersenoleiddio

£50.00

Darn o waith celf gwreiddiol sydd wir yn arbennig ac unigryw i chi.  Weithiau dydy fframio llun arbennig fel y lleill ddim cweit yn rhoi cyfiawnhad iddo. Mae lluniau o atgofion o amseroedd da a phobl arbennig yn bethau i’w trysori.

Yr oll sydd angen gwneud yw gyrru ffotograff i mi ac unrhyw destun i gydfynd a’r llun (hyd at 30 llythyren), ac mi na i y gweddill!

Bydd pob llun yn hollol unigryw, ac byddaf yn addasu eich ffotograff, y cefndir a gosod y testun yn y ffordd gorau i weddu’ch llun.

Byddaf yn e-bostio ffotograff o’r llun gorffenedig i chi i neud yn hollol siwr eich bod yn hapus gyda fo cyn ei fframio. Mor hawdd a hyny.

Mae’r llun yma wedi ei fframio mewn ffram wen ddwfn sydd yn 8″ sgwar.

Gofynion: Mae gofyn i’r llun fod o safon da ac mewn ffocws ac yn ddelfrydol heb fwy na 4 o bobol. Yn fy marn i, mae’r lluniau gorau yn rai naturiol (neb yn edrych ar y camera), ac mae hen luniau retro yn gweddu’n dda gyda’r steil hyn (er mae lluniau modern yn gweithio hefyd). Ond rydw i mwy na hapus i weithio gyda unrhyw lun sydd gennych!

Gallwch e-bostio’r ffotograffau i post@elincrowleyprint.cymru ar ôl gwneud y taliad. Dwi hefyd yn hapus i edrych ar y llun cyn i chi brynnu os hoffech drafod mwy cyn archebu.

Caniatewch 1-2 wythnos i mi brosesu’r archeb.

SKU: personalised-art Category:

Product Description